Y GÊM LAWN | Y Drenewydd v Pen-y-bont | Rownd Gynderfynol Gemau Ail Gyfle Cymru Premier JD

2024 ж. 10 Мам.
820 Рет қаралды

PÊL-DROED BYW: Y Drenewydd v Pen-y-bont | C/G 12.20 ⚽️
Rownd Gynderfynol Gemau Ail Gyfle Cymru Premier JD. Bydd enillwyr y gemau ail gyfle yn ymuno â'r Seintiau Newydd, Cei Connah a'r Bala yn rowndiau rhagbrofol Ewrop dros yr haf.
Rhagolwg:
Momentwm yw’r gair hud wrth drafod y gemau ail gyfle, ac mae hwnnw ar ochr y ddau dîm yma fydd yn llawn hyder cyn y gêm fawr brynhawn Sadwrn.
Gorffennodd Y Drenewydd y tymor arferol yn gryf gyda dwy fuddugoliaeth yn olynol (vs Caernarfon a Met Caerdydd), gan golli dim ond un o’u chwe gêm ddiwethaf (vs YSN).
Yn yr hanner isaf, collodd Pen-y-bont ond unwaith wedi’r hollt, gan fynd ar rediad arbennig o chwe gêm heb golli nac heb ildio ar ddiwedd y tymor (ennill 5, cyfartal 1).
Mae’r Drenewydd yn cystadlu yn y gemau ail gyfle am yr wythfed tro yn eu hanes, a does neb wedi ennill y gystadleuaeth yn amlach na’r Robiniaid (2 - hafal gyda Bangor).
Y Drenewydd, Met Caerdydd a’r Bala yw’r unig glybiau i gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle deirgwaith, ond colli bu hanes y Robiniaid yn y ffeinal llynedd (ar giciau o’r smotyn vs Hwlffordd).
Haf 2021 oedd y tro diwethaf i’r Drenewydd ennill y gemau ail gyfle - ac hynny ar ôl ennill ym Mhen-y-bont yn y rownd gynderfynol (0-1) cyn curo Caernarfon ar yr Oval yn y ffeinal (3-5).
Tymor 2014/15 yw’r unig dro arall i’r Drenewydd ennill y gemau ail gyfle, yn curo oddi cartref ym Mhort Talbot ac Aberystwyth y flwyddyn honno.
Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd Ewrop ar bump achlysur yn y gorffennol gan ennill rowndiau yn erbyn Valletta (2015) a HB Torshavn (2022) yn ystod y degawd diwethaf.
Gorffennodd Pen-y-bont yn 3ydd y tymor diwethaf gan fynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes (colli 3-1 dros ddau gymal vs Santa Coloma, Andorra).
O’r pedwar clwb sy’n cystadlu yn y gemau ail gyfle eleni, Pen-y-bont yw’r unig dîm sydd heb ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol.
Mae Pen-y-bont wedi chwarae’n y gemau ail gyfle ddwywaith o’r blaen, yn colli’n y rownd gynderfynol ar y ddau achlysur - yn erbyn Y Drenewydd yn 2020/21, a’r Fflint yn 2021/22.
Er bod Y Drenewydd wedi gorffen yn uwch yn y tabl na’u gwrthwynebwyr, mae’r record benben ar ochr Pen-y-bont gan nad ydyn nhw wedi colli mewn chwe gêm yn erbyn y Robiniaid (ennill 5, cyfartal 1), ac fe sgoriodd Chris Venables dair gôl mewn dwy gêm yn erbyn Y Drenewydd yn rhan gynta’r tymor.
#JDCymruPremier

KZhead